To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Swyddfeydd y Dalaith, 39 Heol y Gadeirlan

  • Cynnwys y dudalen hon dair set o gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Swyddfeydd Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru,  39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd:
    • O Orsaf Ganolog Caerdydd
    • O’r Gorllewin neu o’r A470 trwy gyffordd 33 yr M4
    • O’r Dwyrain ar hyd yr M4 (wedi croesi Pont Hafren)

 

  • O ORSAF REILFFORDD GANOLOG CAERDYDD (ar droed)

    • Gyda phorth yr orsaf y tu ôl i chwi, a chwithau’n wynebu’r orsaf fysiau, ewch allan trwy’r fynedfa ar y chwith o’r buarth o flaen yr orsaf.  Wedi cyrraedd y goleuadau traffig, trowch i’r chwith heibio i Stadiwm y Mileniwm a chroeswch yr Afon Taf (bellach yr ydych ryw 300 llath o’r orsaf).
    • Yn syth wedi croesi’r afon, trowch i’r dde i lawr Fitzhamon Embankment.
    • Ar ôl rhyw 400 llath, mae’r ffordd yn troi’n sydyn i’r chwith gan newid ei henw i Despenser Street.
    • Ar ôl 150 llath, trowch i’r dde ger cylchfan i mewn i Heol Isaf y Gadeirlan.
    • Ar ôl 150 llath pellach, byddwch wedi cyrraedd cyffordd brysur arall â goleuadau traffig yn ei rheoli. Mae Heol Isaf y Gadeirlan yn croesi Heol Y Bontfaen gan newid i fod yn Heol y Gadeirlan.
    • Mae rhif 39 (sydd mewn difrif yn cynnwys 37, 39 a 39A) ar y chwith rhwng y ffordd gyntaf a’r ail ffordd ar y chwith.
    • Trowch i’r chwith ger y cyntaf o’r goleuadau traffig, yna i mewn i’r lôn gyntaf ar y chwith eto, ac i’r chwith wedyn i mewn i’r maes parcio. Mae’r brif fynedfa i ‘39’ o’r maes parcio.

 

  • O’R GORLLEWIN NEU’R A470 TRWY GYFFORDD 33 YR M4

    • Gadewch yr M4 yng nghyffordd 33 ac ewch allan o’r gylchfan trwy’r allanfa gyntaf - A4232 (y ffordd gyswllt).
    • Anwybyddwch allanfeydd yr Amgueddfa Werin a Chroes Cwrlwys, ac ar ôl oddeutu 5 milltir, ymadewch â’r ffordd gyswllt trwy’r allanfa Ystâd Ddiwydiannol Lecwydd a’r Ganolfan Chwaraeon.
    • Wrth ddilyn y ffordd ymadael, arhoswch yn y lôn chwith ac yn y gylchfan cymerwch yr allanfa gyntaf (Ffordd Lecwydd) gydag arwyddion am Ganol y Ddinas. Byddwch yn mynd heibio canolfan chwaraeon ar y dde a chaeau ar y chwith.
    • Ar ôl ¼ milltir, ac wedi cyrraedd y goleuadau traffig, ewch yn syth yn eich blaen.  Byddwch yn mynd o dan bont rheilffordd.
    • Ar ôl canllath arall byddwch yn cyrraedd set arall o oleuadau traffig.  Trowch i’r dde (ond nid yn chwyrn i’r dde) i mewn i heol lydan (Wellington Street) sy’n arwain at ganol y ddinas.  30 m.y.a. yw’r cyfyngiad cyflymdra yma.
    • Ar ôl oddeutu ¼ milltir, ewch yn syth yn eich blaen yn y goleuadau traffig nesaf, gan barhau i fynd tuag at ganol y ddinas.  Yr ydych bellach ar Ffordd Y Bontfaen.
    • Ar ôl 300 llath, yn y goleuadau traffig nesaf, trowch i’r chwith i mewn i Heol y Gadeirlan.  Ar y llaw chwith, ac nid nepell cyn i chwi gyrraedd y goleuadau traffig, fe welwch adeilad Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol sydd â lawnt o’i flaen.
    • Ewch yn eich blaen i fyny Heol y Gadeirlan at y goleuadau traffig nesaf, sydd â mynegbost yn cyfeirio at Athrofa Chwaraeon Cymru a Gerddi Soffia.  Trowch i’r chwith yn y gyffordd hon, ac i’r chwith eto bron yn syth wedyn, i mewn i lôn gefn.  Y fynedfa gyntaf y dewch iddi yw’r ffordd i mewn i faes parcio’r Eglwys yng Nghymru. (Os yw’r lôn fach wedi ei chau gan gerbydau wedi parcio ynddi, ewch yn eich blaen a throwch i’r chwith yn y tro nesaf, yr un wedyn a’r un canlynol er mwyn cyrraedd pen arall y lôn.)

 

  • O’R DWYRAIN, AR HYD YR M4 WEDI CROESI PONT HAFREN:

    • Ymadewch â’r M4 yng nghyffordd 29, sydd â’r arwydd A48(M) Caerdydd. Arhoswch ar yr A48 tan i’r draffordd droi yn ffordd A ddeuol (wedi 1.5 milltir)
    • Dilynwch yr A48 am oddeutu 7 milltir pellach, gan anwybyddu arwyddion ar gyfer canol y ddinas, nes bod y ffordd ddeuol yn dod i ben (yn fuan wedi cyffordd 3 lefel, y cyfyngiad cyflymdra 40 m.y.a., cip ar Eglwys Gadeiriol Llandaf ar y llaw dde, a’r set gyntaf o oleuadau traffig).
    • Wedi’r bont dros afon Taf mae’r ffordd ddeuol yn ail-gychwyn!
    • Dilynwch y fforch yn y ffordd tua’r chwith, gan ddilyn yr arwydd am ganol y ddinas (oddeutu 0.5 milltir y tu hwnt i’r goleuadau traffig cyntaf sy’n darparu mynediad i’r Coleg Technegol ar y llaw dde).  Arhoswch yn y lôn chwith, ac yn y goleuadau traffig sy’n rheoli llif y traffig trwy’r gyffordd “T” trowch i’r chwith (i mewn i Heol Caerdydd).
    • Wrth y set nesaf o oleuadau (0.5 milltir), trowch i’r chwith (golau ffilter yn weithredol) i mewn i Penhill Road. Dilynwch y ffordd hon am o ddeutu 0.75 milltir (mae’n newid ei henw i Heol y Gadeirlan).
    • Nid nepell cyn y groesfan Belican (y drydedd ers ichwi droi i mewn i Penhill Road), y mae troeon i’r dde a’r chwith.  Mae canol y ffordd â lonydd cyfeiriedig er mwyn cynorthwyo gyrwyr sy’n dod o ganol y ddinas i droi i’r chwith i mewn i Erddi Soffia (Athrofa Chwaraeon Cymru).  Mae’r tro i’r dde, rhwng blwch llythyron coch ar un gornel a bocs ffôn cyhoeddus coch hen-ffasiwn gerllaw’r llall, ym mynd â chwi i Talbot Street.
    • Trowch i’r dde i mewn i Talbot Street ac ar ôl ugain llath trowch i’r chwith i mewn i lôn gefn – mae garej o friciau ar y cornel.
    • Y maes parcio cyntaf ar y chwith yw un Yr Eglwys yng Nghymru.  Parciwch mewn unrhyw ofod parcio gwag ac eithrio’r un sy’n union gerllaw mynedfa gefn yr adeilad - sydd wedi ei neilltuo ar gyfer dadlwytho nwyddau.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.